Skip to content header Skip to main content Skip to content footer

WWT Llanelli has moved to seasonal opening days

Close alert

WWT to create bigger, more connected wetlands in Wales thanks to funding boost

WWT, the wetland charity, has received £548,406 to carry out a three-year wetland creation and restoration project.

WWT to create bigger, more connected wetlands in Wales thanks to funding boost

Made possible by funding from the Nature Networks Programme, WWT will carry out extensive wetland habitat creation and restoration works at WWT Llanelli. 

The wetland charity’s only Welsh site, as well as the surrounding Tir Morfa coastline, will benefit from new and restored wetland habitats that will provide shelter for internationally important wintering birds and bring local people closer to nature. 

 Brian Briggs, Reserve Manager at WWT Llanelli said:  

“This funding will help us to deliver a programme of work that will benefit wildlife, people and the surrounding local area of Carmarthenshire for many years to come.  

“At WWT, we’re on a mission to restore wetlands. Creating and restoring both fresh- and saltwater wetlands in and around WWT Llanelli will create safe havens for internationally important populations of birds including black-tailed godwit, lapwing and shoveler to feed and breed, as week as providing habitat for other species like otters and the critically endangered European eel.” 

“Inside WWT Llanelli itself, we’re very excited to have the opportunity to completely restore our flagship wildlife viewing hide. And along the popular Millennium Coastal Path we’ll be creating new interpretation boards and panoramic viewing areas.  This work will help hundreds of thousands of people to engage with and enjoy the incredible wildlife spectacles these wetlands offer.” 

The project will also see pioneering scientific work carried out by WWT’s Wetland Evidence team to investigate how best to future-proof the reserve and the wider protected site against the impacts of climate change. WWT will bring together its scientists with land managers, to look at ways of tackling climate change on the ground through local initiatives. 

Brian continued: "WWT Llanelli and the surrounding coast is beloved by the local community, so we hope that the improvements we make through this project will have benefits which last for generations. With the ever-increasing impacts and threats of climate change on our environment, building stronger, more resilient and inter-connected networks of wetlands has never been more important.” 

The Tir Morfa Wetland Connections project is a three-year programme of works, funded by the Nature Networks Programme, which is being delivered by the Heritage Fund, on behalf of the Welsh Government. 

Andrew White, Director of Wales at the Heritage Fund said:

“At the Heritage Fund, supporting and strengthening our natural heritage is a key priority. We’re proud to be working with the Welsh Government and Natural Resources Wales to deliver this programme and help drive nature’s recovery across the country.” 

The project will have extensive positive impacts on WWT Llanelli, the Burry Inlet Special Protected Area and Ramsar site, Carmarthenshire Bay & Estuaries Special Area of Conservation and the Burry Inlet and Loughor Estuary Site of Special Scientific Interest. 

Header image: An aerial photograph of the reserve at WWT Llanelli

WWT i greu gwlyptiroedd mwy o faint, a mwy cystlltiedig yng Nghymru diolch i hwb ariannol

Mae WWT, elusen y gwlyptir, wedi derbyn £548,406 i gynnal prosiect tair blynedd i greu ac adfer gwlyptir.   

Wedi’i ariannu gan arian a dderbyniwyd oddiwrth y Rhaglen Rhwydweithiau Natur, bydd WWT yn gwneud gwaith sylweddol o greu ac adfer cynefin gwlyptir yn WWT Llanelli. 

Hon yw unig safle yr elusen yng Nghymru ac, yn ogystal ag arfordir cyfagos Tir Morfa, bydd yn elwa o weld cynefinoedd newydd, a rhai a adferwyd, a bydd rhain yn darparu lloches ar gyfer adar sy’n bwysig yn rhyngwladol a sy’n gaeafu yma, ac yn dod â phobl yn agsach at natur.   

Dyma a ddywedodd Brian Briggs, Rheolwr Gwarchodfa WWT Llanelli: 

“Bydd yr arian yma’n helpu ni i gynnal rhaglen waith a bydd o fudd i fywyd gwyllt, pobl ac ardal leol gyfagos Sir Gaerfyrddin am flynoedd i ddod. 

"Yn WWT, ‘rydym yn ymgyrchu i adfer gwlyptiroedd. Bydd creu ac adfer gwlyptiroedd dŵr croyw ac heli yn, ac o gwmpas, WWT Llanelli yn creu llochesau diogel ar gyfer poblogaethau adar sy’n bwysig yn rhyngwladol, gan gynnwys y rhostog gynffonddu, y gornchwiglen a’r hwydaen lydanbig, i fwydo a bridio, yn ogystal â darparu cynefin ar gyfer rhywogaethau eraill megis dyfrgwn a’r Lysywen Ewropeaidd, sy’n wynebu perygl difrifol.   

"Yn WWT Llanelli, ‘rydym yn gyffrous iawn i gael y cyfle i adfer, yn gyfangwbl, ein cuddfan gwylio bywyd gwyllt. Ac ar hyd y Llwybr Arfordir y Mileniwn poblogaidd byddwn yn creu hysbysfyrddau dadansoddi ac ardaloedd gwylio panoramig. Bydd y gwaith yn helpu cannoedd o filoedd o bobl i ymgysylltu â, a mwynhau, y golygfeydd bywyd gwyllt anhygoel sydd gan y gwlyptiroedd hyn i’w cynnig”. 

Bydd y prosiect hefyd yn gweld tîm Tystiolaeth y Gwlyptir WWT yn gwneud gwaith gwyddonol arloesol i archwilio’r ffordd orau o warchod y safle rhag effaith newid hinsawdd. Bydd WWT yn dod â’i wyddonwyr ynghyd â’i dir-reolwyr i astudio ffyrdd o daclo newid hinsawdd ar lawr gwlad gan ddefnyddio mentrau lleol.  

Aeth Brian ymlaen i ddweud: “Mae WWT Llanelli a’r arfordir cyfagos wrth galon y gymuned leol, felly ‘rydym yn gobeithio y bydd y gwelliannau a fydd yn deillio o’r prosiect hwn yn dod â buddion a fydd yn parhau am genedlaethau. O ystyried effaith a bygythiadau newid hinsawdd ar ein hamgylchedd, ni fu adeiladu rhwydweithiau cryfach, mwy gwydn, rhyng gysylltiedig erioed yn bwysicach”.  

Prosiect rhaglen waith tair blynedd yw Cysylltiadau’r Gwlyptir Tir Morfa, wedi’i ariannu gan Rhaglen Rhwydweithiau Natur, ac a ddarperir gan y Gronfa Dreftadaeth ar ran Llywodraeth Cymru.   

Dyma a ddywedodd Andrew White, Cyfarwyddwr y Gronfa Dreftadaeth yng Nghymru:

“I ni yn y Gronfa Dreftadaeth, mae cryfhau ein treftadaeth naturiol yn flaenoriaeth allweddol. ‘Rydym yn falch o gydweithio gyda Llywodraeth Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru i ddarparu’r rhaglen hon ac helpu gyrru adferiad natur ar draws y wlad”.   

Bydd y prosiect yn cael effaith bostif ar WWT Llanelli, Ardal Warchodedig Arbennig Cilfach Tywyn a’r safle Ramsar, Ardal Gadwraeth Arbennig Bae Caerfyrddin a’r Aberoedd a Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Cilfach Tywyn ac Aber Llwchwr.