Redesign of Visitor Centre
We’re excited to share that we have secured funding to transform our entrance and visitor facilities, creating a more accessible and welcoming arrival to our wetlands.
We’re excited to share that we have secured funding to transform our entrance and visitor facilities, creating a more accessible and welcoming arrival to our wetlands.
Cliciwch yma am y fersiwn Cymraeg.
WWT Llanelli has been awarded £300,000 from the Brilliant Basics Fund – funded by the Welsh Government and supported by Carmarthenshire County Council – to improve our entrance and visitor centre. A further £100,000 has been contributed by WWT, the wetland charity.
This funding will support the Welcome Project – a major redevelopment designed to create a more inclusive experience for everyone who visits our wetlands.
Jo Jones, Centre Manager at WWT Llanelli, said:
“Our newly transformed visitor centre will ensure everyone receives a warm and inclusive welcome. While there will be some temporary disruption during the build, we’re carefully planning the works to make sure people can continue to enjoy the wetlands, with long-term benefits for visitors, wildlife and the wider community.”
The improvements will make it easier for everyone to enjoy WWT Llanelli from the moment they arrive. New pathways, slopes, wider doorways and improved entrances will help visitors move around the welcome area with ease. Clear signs and information in both Welsh and English will celebrate our national identity and provide an inclusive experience for all.
There will also be brand new welcome and information points, clearer directions and engaging displays sharing the story of wetlands, the wildlife that depends on them and why they are so important in a changing climate. All of these updates are designed to help visitors explore for longer and make the most of their day out with us.
Sustainability is central to the project, with a Sustainable Urban Drainage System (SuDS) designed to manage stormwater naturally, reduce flood risk and support biodiversity. These improvements build on our wider sustainability plans, which include electric vehicle charging points and solar panels.
Work is expected to begin in April 2026 and be completed by November 2026, coinciding with WWT’s 80th birthday celebrations. During this period, visitors should expect some temporary changes to access and facilities while construction takes place. We will remain open throughout the works, with clear signage, regular updates and alternative arrangements in place to minimise disruption wherever possible.
The redesigned entrance will also celebrate Welsh heritage, incorporating local materials and cultural references while creating new opportunities for community engagement, including partnership opportunities with local artists.
The redevelopment supports the aims of the Brilliant Basics Fund, Carmarthenshire County Council’s Tourism Destination Plan, and WWT’s 2030 Strategy.
Rebecca Evans, Cabinet Secretary for Economy, said:
“WWT Llanelli is a remarkable natural asset, and this investment will ensure it becomes even more accessible, inclusive and welcoming for everyone. The Brilliant Basics Fund exists to enhance the essential infrastructure that underpins great visitor experiences – improving accessibility, facilities, and supporting destinations to offer year-round, sustainable tourism.
This project at WWT Llanelli embodies those aims and I’m delighted that the Welsh Government can help drive this transformation, which will benefit visitors, wildlife and the wider Carmarthenshire economy for generations to come.”
Cllr Hazel Evans, Carmarthenshire County Council’s Cabinet Member for Regeneration, Leisure, Culture and Tourism, said:
“Working in collaboration with WWT Llanelli, this exciting project will enhance visitor experience and improve accessibility by updating pathways, doors and ramps as required to meet universal standards, providing bilingual interpretation and installing clear wayfinding systems. I look forward to seeing the results of this project in the future.”
Stay tuned via our website and social media channels for the latest updates during the development period.
Want to know more on the Welcome Project?
Read our frequently asked questions:
Ailwampio’r Ganolfan Ymwelwyr
‘Rydym yn gyffrous i gyhoeddi ein bod wedi derbyn arian i drawsnewid ein mynediad a’r cyfleusterau i ymwelwyr, er mwyn creu mynediad mwy hygyrch a chroesawgar i’r gwlyptir.
Mae WWT Llanelli wedi derbyn £300,000 o’r Gronfa Pethau Pwysig – wedi’i ariannu gan Llywodraeth Cymru, gyda chefnogaeth oddiwrth Gyngor Sir Caerfyrddin – i wella ein mynediad a’n canolfan ymwelwyr. Mae £100,000 hefyd wedi’i gyfrannu gan WWT, yr elusen gwlyptir.
Bydd yr arian hyn yn cefnogi’r Prosiect Croeso – ail-ddatblygiad mawr sydd wedi’i ddylunio i greu profiad mwy cynhwysol i bawb sy’n ymweld â’n gwlyptir.
Dyma oedd gan Jo Jones, Rheolwr y Ganolfan yn WWT Llanelli, i’w ddweud:
“Bydd ein canolfan ymwelwyr ar ei newydd wedd yn sicrhau bod pawb yn derbyn croeso cynnes a chroesawgar. Tra y bydd peth aflonyddu dros-dro yn ystod y gwaith adeiladu, ‘rydym yn cynllunio’r gwaith yn ofalus i sicrhau bod pobl yn gallu dal i fwynhau’r gwlyptir, ac er mwy darparu buddion hirdymor i ymwelwyr, bywyd gwyllt a’r gymuned ehangach”.
Bydd y gwelliannau yn gwneud hi’n haws i bawb fwynhau WWT Llanelli o’r funud eu bod yn cyrraedd. Bydd llwybrau troed, llethrau, a drysau lletach newydd, a gwell mynediadau yn gwneud hi’n haws i ymwelwyr symud o gwmpas yr ardal groeso. Bydd arwyddion clir, a gwybodaeth yn Gymraeg a Saesneg yn dathlu’n hunaniaeth cenedlaethol, a darparu profiad cynhwysol i bawb.
Yn ogystal, bydd mannau croesawu a gwybodaeth newydd sbon a chyfarwyddiadau cliriach ac arddangosfeydd deniadol yn rhannu stori’r gwlyptir, y bywyd gwyllt sy’n dibynnu arnynt a phaham y maen nhw mor bwysig mewn hinsawdd sy’n newid. Bydd yr holl ddiweddariadau hyn wedi’u cynllunio i helpu’r ymwelwyr archwilio am gyfnodau hirach, a gwneud y gorau o’u diwrnod allan yn ein cwmni.
Mae cynaliadwyedd yn ganolog i’r prosiect, gyda System Draenio Trefol Cynaliadwy (SuDS), wedi’i ddylunio i reoli dŵr storom yn naturiol, lleihau risg llifogydd a chefnogi bioamrywiaeth. Bydd y gwelliannau hyn yn adeiladu ar ein cynlluniau cynaliadwyedd ehangach, sy’n cynnwys pwyntiau gwefru cerbydau trydanol a phaneli solar.
Disgwylir y bydd y gwaith yn dechrau ym mis Ebrill 2026, ac yn cael ei gwblhau erbyn Tachwedd 2026, dyddiad sy’n cydfynd â dathliadau penblwydd y WWT yn 80 oed. Yn ystod y cyfnod hwn dylai’r ymwelwyr ddisgwyl peth newidiadau dros-dro i drefniadau mynediad a chyfleusterau tra bod y gwaith adeiladu yn mynd yn ei flaen. Byddwn yn dal ar agor drwy gydol y gwaith, a bydd arwyddion clir, diweddariadau cyson a threfniadau amgen yn eu lle i leihau ar unrhyw aflonyddu lle bynnag y bo hynny’n bosibl.
Ar ei newydd wedd, bydd y fynediad newydd hefyd yn dathlu treftadaeth Gymreig, gan gynnwys deunyddiau lleol a chyfeiriadau diwylliannol sy’n creu cyfleoedd newydd am ymgysylltu cymunedol, gan gynnwys cyfleoedd partneriaeth gydag artistiaid lleol.
Bydd yr ail-ddatblygu’n cefnogi amcanion Cynllun Cyrchfan i Dwristiaid Cyngor Sir Caerfyrddin, y Gronfa Pethau Pwysig, a Strategaeth 2030 WWT.
Dyma oedd gan Rebecca Evans, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, i’w ddweud:
“Mae WWT Llanelli yn ased naturiol anhygoel, a bydd y buddsoddiad hwn yn sicrhau ei fod yn dod yn fwy hygyrch, cynhwysol a chroesawgar i bawb. Mae’r Gronfa Pethau Pwysig yn bodoli i wella’r seilwaith hanfodol sy’n sail i brofiadau gwych i’r ymwelwyr – yn gwella hygyrchedd, cyfleusterau a chefnogi cyrchfannau i ddarparu twristiaeth gynaliadwy drwy gydol y flwyddyn.
Bydd y prosiect hwn yn WWT Llanelli yn ymgorffori’r amcanion hynny, a dw wrth fy modd bod Llywodraeth Cymru yn gallu helpu gyrru’r trawsnewidhwn, a fydd o fudd i ymwelwyr, bywyd gwyllt ac economi ehangach Sir Gâr am genedlaethau i ddod”.
Dyma ddywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth:
“Gan gydweithio gyda WWT Llanelli, bydd y prosiect cyffrous hwn yn gwella’r profiad i ymwelwyr a gwella hygyrchedd drwy uwchraddio llwybrau troed, drysau a rampiau yn ôl y gofyn, er mwyn cydymffurfio â safonau cyffredinol, a darparu dehongliad dwyieithog a gosod systemau canfod ffordd clir. Edrychaf ymlaen at weld canlyniadau’r prosiect hwn yn y dyfodol”.
Yn ystod y cyfnod datblygu, am ddiweddariadau, cadwch lygad ar ein gwefan a’n sianeli cyfrwng cymdeithasol.
Am wybod mwy am y Prosiect Croeso?
Darllenwch ein cwestiynau a ofynnir yn aml: