Gwaith hanfodol i sicrhau mynediad i'r warchodfa natur yn dechrau

Mae gwaith wedi dechrau'r wythnos hon i adnewyddu'r bont droed adfeiliedig sy'n cysylltu ein canolfan ymwelwyr â 450 erw gwarchodfa Gwlyptiroedd y Mileniwm

Ers iddi gael ei hagor fwy nag ugain mlynedd yn ôl, mae’r bont bren wedi galluogi tua miliwn o ymwelwyr i groesi ac archwilio’r gwlyptiroedd. Gyda'r holl ddefnydd dyddiol hwn, mae'r pren yn dangos ei oedran ac, ac felly, bu angen mwy a mwy o waith atgyweirio a chynnal a chadw. Mae angen ei ddisodli ar frys yn awr.

Bydd gosod y bont newydd yn golygu ychydig o amhariad dros yr ychydig o wythnosau nesaf, ond mae llwybr dros dro arall i'r warchodfa wedi'i nodi i leihau'r effaith ar ymwelwyr.

Dywedodd Jo Jones, Rheolwr Canolfan WWT Llanelli: "Rydym wrth ein bodd ein bod bellach yn gallu disodli y bont droed treuliedig gyda dyluniad cryf a hirhoedlog i sicrhau bod mwy o bobl yn gallu cael mynediad i’r warchodfa a chysylltu â natur y gwlyptir yn y blynyddoedd i ddod."

"Rydym yn sylweddoli y bydd y gwaith yn peri anghyfleustra i’n hymwelwyr rheolaidd yn y tymor byr, ond mae diogelu’r mynediad hwn yn hanfodol i sicrhau dyfodol y warchodfa natur, felly gofynnwn i bawb fod yn amyneddgar gyda ni."

"Mae’r gwaith o adeiladu’r bont newydd yn cael ei gefnogi gan gyllid gan Gyngor Sir Caerfyrddin o dan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU."

Beth mae hyn yn ei olygu ar gyfer ymwelwyr dros yr wythnosau nesaf

  • Ni fydd ein canolfan ymwelwyr, pyllau yn y casgliad a gweithgareddau Pasg yn cael eu heffeithio o gwbl gan y gwaith.
  • Bydd cyddfanau Adain y Crëyr a Peter Scott ar gau am y rhan fwyaf o'r gwaith sefydlu er mwyn cadw contractwyr ac aelodau'r cyhoedd yn ddiogel. Mae'n gas gennym orfod cau cuddfannau, ond y gwir amdani yw, os na fyddwn yn gwneud y gwaith hwn yn awr, mae mynediad i'r warchodfa yn y dyfodol mewn perygl.

Darllenwch hwn yn Saesneg

UK Gov, CCC and SPF Funding logos LL.png

  • Share this article